Ser Yn Disgyn 11.03.13
Aled Rheon
Ar gael ar CD neu i'w lawrlwytho o Bandcamp
Ar gael ar CD neu i'w lawrlwytho o Bandcamp
Sefydlodd Sibrydion eu hunain fel un o brif fandiau’r sin Gymraeg ar ol rhyddhau JigCal (2005) a Simsalabim (2007), a chwarae’n rheolaidd ledled Cymru, yn ogystal ag ymddangos yn y prif wylia. Bu taith lwyddiannus yn Iwerddon yn 2008, a pherfformiad yn yr wyl hynod boblogaidd yn Loriont, Llydaw.
Yn 2009, rhyddhawyd Campfire Classics a gafodd ymateb ag adolygiadau hynod ffafriol dros y ffin.
Ond yn nawr, i’r presennol, a mae’r band wedi recordio 13 can newydd sbon danlli. Mae’r miwsig yn cyfuno pob math o ddylanwada a genres, fel y gan honky-tonk’aidd, Cadw’r Blaidd O’r Drws , i’r faled swynol, Codi Cestyll, ac Dawns Y Dwpis, sy’n cyfleu rhyw naws Sbaeneg/ Ciwbaidd.
Bydd Uwchben y Drefn ar gael yng Nghymru ar 15/07/11, gyda lawnsiad D.U./digidol ddiwedd yr haf. Gobeithio y mwynhewch yr albym, ac am fwy o wybodaeth, ymwelwch a www.jigcal.com neu ebostiwch post@jigcal.com.